Welsh Beginners' Workshop
Gweithdy I Ddechreuwyr
Cynnwys
Mae'r Gweithdy i Ddechreuwyr yn cynnig cyflwyniad ymarferol i Raglen Iaith Makaton.
Mae'r sesiynau yn cynnwys cwestiynau cyffredinol a gaiff eu gofyn,
gair o gyngor ar sut i arwyddo'n effeithiol, sut i ddefnyddio symbolau a
sut i ddechrau defnyddio Makaton o ddydd i ddydd, gartref neu yn y
gwaith.
Fe fyddech hefyd yn dysgu am arwyddo a symbolau i Gamau 1-4 ac yn ogystal yr Eirfa Graidd Ychwanegol.
Hyd
Mae'r Gweithdy i Ddechreuwyr yn cynnwys 4 modiwl ac mae'n bosibl
iddynt gael eu cyflwyno mewn nifer o ffyrdd gwahanol, er enghraifft:
- Dros gyfnod o 2 ddiwrnod
- 4 Sesiwn x 2 awr 45 mun dros gyfnod o wythnosau
Maeni Prawf Mynediad
Mae'n rhaid i gyfranogwyr fod â diddordeb mewn sgiliau cyfathrebu.
Defnyddiau Astudio
Fe fyddwch yn derbyn dau lyfryn gweithdy, sy'n cynnwys arwyddion a
symbolau yr ydych wedi'u dysgu'n barod. Fe gyflwynir tystysgrif
presenoldeb.
Cofiwch gadw eich Tystysgrif Gweithdy i Ddechreuwyr rhag ofn y byddwch am fynychu unrhyw hyfforddiant Makaton pellach.
Gweithdy I Ddechreuwyr